logo'r Côr
Côr Rhuthun

Hanes

Côr Ieuenctid Rhuthun

Yn 1980 daeth Morfydd Vaughan Evans â chriw o ferched o ardal Rhuthun at ei gilydd i ffurfio parti merched ar gyfer cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Abergele. Bu'r parti'n llwyddiannus a chyn pen dim, roedd bechgyn y fro am ymuno. Felly yn 1981 ffurfiwyd Côr Aelwyd Rhuthun (a ddaeth yn ddiweddarach yn Gôr Ieuenctid Rhuthun ac wedyn yn Gôr Rhuthun a'r Cylch) o dan arweinyddiaeth Morfydd gyda Beryl Lloyd Roberts yn cyfeilio.
Albwm hen luniau

Mae'r côr wedi ennill y brif gystadleuaeth i gorau cymysg mawr yn yr Eisteddfod Genedlaethol chwe gwaith, y drydedd wobr yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn 1996, a'r wobr gyntaf yng Ngwyl Gorawl Ryngwladol Sligo yn Iwerddon yn 2006. Bu nifer fawr o ymddangosiadau ar deledu a radio dros y blynyddoedd, ac fe ryddhawyd 7 record a chryno-ddisg.
Albwm lluniau Eisteddfodau

Eisteddfod Bro Colwyn 1995 ©Tegwyn Roberts
Y Côr yn Sligo

Bu'r Côr yn cystadlu mewn nifer o wyliau cerdd dros y blynyddoedd gan gynnwys Killarney a Sligo yn yr Iwerddon ac Eindhoven yn yr Iseldiroedd, ac ar deithiau i wneud cyngherddau ym Mharis ac yng ngefeilldref Rhuthun, sef Briec yn Llydaw.
Albwm lluniau teithiau

Un o uchafbwyntiau yn hanes y Côr oedd perfformio a recordio gwaith comisiwn Robat Arwyn yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych 2001, sef Atgof o'r Sêr, gyda Bryn Terfel a Fflur Wyn. Yn 2003 cafodd y côr wahoddiad i ffurfio côr unedig gyda Chôr Eifionydd a Chantorion Sirenian ar gyfer recordiad teledu o Meseia Handel yn y Gymraeg ar gyfer S4C, yng nghwmni'r unawdwyr Bryn Terfel, Eirian James, Shan Cothi a chyn aelod o'r Côr, sef Rhys Meirion. Gwahoddodd Rhys y Côr i gyd-ganu tair cân ar ei CD Pedair Oed (2004) yn ogystal â charol newydd, Un Enaid Bach, ar CD Nadolig Newydd yn 2006. Yn 2006 hefyd, fel rhan o ddathliadau'r côr yn 25 oed, recordiwyd Er Hwylio'r Haul, gwaith gan Robat Arwyn i goffau Llywelyn ein Llyw Olaf.

Lansio CD Atgof o'r Sêr - Mai 2002