Unigolion
Cyfeilyddion
Dros y blynyddoedd bu'r Côr yn ddibynnol ar wasanaeth sawl cyfeilydd, sef Beryl Lloyd Roberts, Glenys Roberts, Eirian Williams a Robat Arwyn. Erbyn hyn mae'r Côr yn ffodus iawn fod tri o'r aelodau presennol yn fodlon rhannu'r gwaith cyfeilio, sef
Nerys Davies
Yn enedigol o Ddyffryn Banw, mae Nerys bellach yn byw yn Rhuthun ac yn ddirprwy bennaeth yn Ysgol Twm o'r Nant, Dinbych.
Robert Parry
Gweinidog Capel y Groes, Wrecsam ydi Robert ac mae'n byw yn y dref.
Mair Jones
Mae Mair yn byw ym Mhwllglas, ger Rhuthun, yn fam i ddau o blant ac yn gweithio i'r Ymddiriedolaeth
Genedlaethol.
Unawdwyr
Eto, bu'r Côr yn ffodus iawn o gael aelodau oedd yn abl iawn i gymryd rhannau unigol yn y cyngherddau, gan gynnwys Nan Vaughan Edwards, Teresa Wynne, Delyth Geraint, Nia Tudur a Rhys Meirion. Ar hyn o bryd mae dau aelod o'r Côr sy'n enillwyr cenedlaethol yn cymryd y rhannau unigol, sef
Kate Griffiths
Daw Kate o Fryn Saith Marchog ger Corwen. Mae hi'n ferch brysur iawn, yn fam i dri o blant, yn canu mewn cyngherddau
ar draws Cymru ac yn cystadlu mewn eisteddfodau mawr a bach. Enillodd yr Unawd Soprano yn yr Eisteddfod Genedlaethol
yn 2006 yn Abertawe ac eto eleni yn Y Bala.
Meirion Wyn Jones
Ffarmio yn Llangynhafal mae Mei wrth ei waith bob dydd ac mae'n dad i bedwar o blant. Mae Mei yn enillydd cyson
mewn eisteddfodau ledled Cymru ac mae hefyd wedi bod ar lwyfan y Genedlaethol ar yr
unawd Bariton a'r Hen Ganiadau yn y gorffennol. Ond yn 2008, yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r Cylch, aeth gam ymhellach pan
ddaeth yn gyntaf yn y gystadleuaeth Unawd Bas a mynd ymlaen wedyn i ennill y Rhuban Glas am unawdydd gorau'r eisteddfod.
Arweinydd Cyngherddau
Llun i ddod!
Iwan Vaughan Evans
Mae Iwan yn byw yn Rhuthun, yn dad i dair o ferched ac yn bennaeth Ysgol Bro Aled, Llansannan. Dros y blynyddoedd
mae wedi arwain cannoedd o gyngherddau yn ei ffordd hamddenol, dihafal ei hun ac yn cyflwyno'r Côr
a'r caneuon mewn modd di-lol gyda joch dda o hiwmor.