Croeso i wefan Côr Rhuthun
Digwyddiadau'r Dathlu - Wedi cael cyfres o ddigwyddiadau bythgofiadwy i ddathlu'r pen-blwydd mawr - rhaglen arbennig am y Côr fel rhan o'r gyfres Pethe; cyngerdd dathlu ar nos Sul, Rhagfyr 4 yng Nghapel Tabernacl, Rhuthun efo gwesteion arbennig - Kate Griffiths, Meirion Wyn Jones a Rhys Meirion, a rhyddhau CD newydd yn cynnwys goreuon y Côr o dan y teitl Bytholwyrdd. Ewch i wefan Sain am fanylion -
Pwy fase'n meddwl ein bod ni dal yma ar ôl 30 mlynedd! Ddaru Morfydd ddychmygu'r peth ym mis Ionawr 1981 tybed? Rydyn ni wedi cael profiadau lu fel aelodau'r Côr ac wedi canu, chwerthin a chrïo efo'n gilydd. Ac mae'r stori'n parhau ... !
Llongyfarchiadau i Emily Davies o Felin y Wig ger Corwen ar ennill ein cystadleuaeth. Mi fydd hi'n derbyn dau docyn ar gyfer ein cyngerdd dathlu ym mis Rhagfyr.
Y tair cân fwyaf poblogaidd a ddewiswyd gan y cystadleuwyr oedd Benedictus, O Nefol Addfwyn Oen a Brenin y Sêr. Byddwn yn perfformio'r tair cân yn y cyngerdd dathlu.
Nos Sul, Mawrth 6 mi roedden ni lawr yn Theatr y Werin, Aberystwyth yn cystadlu yng Nghystadleuaeth Côr Cymru 2011. Er na enillon ni (llongyfarchiadau i Cywair!), naethon ni fwynhau perfformio a chael lot o hwyl!
I weld y beirniaid yn rhoi beirniadaeth fer am bob un o'r corau cliciwch Beirniadaethau.





